Llygod Yr Esgid Print E-mail

Cynhyrchiad newydd yn arbennig ar gyfer plant Cyfnod Sylfaen (oedran 3-7)

"Mae Lloyd a Lili yn credu eu bod yn lygod ffodus dros ben i gael byw mewn hen esgid ddiogel, braf ym mhen draw'r ardd…ac mae eu ffrindiau i gyd yn cytuno. Mae Winni'r Wiwer, Dilys Dylluan, Gethin Gwningen a Sha Sha Siarli'r lindys bob amser yn mwynhau mynd draw i'r hen, hen esgid. Ond, un diwrnod gwlyb a gwyntog, mae hi'n dechrau bwrw glaw…ac mae'n glawio…a glawio…a glawio. Yn sydyn, 'dyw'r hen esgid ddim yn teimlo mor ddiogel rhagor wrth iddi gael ei chludo gan lif y dŵr gyda'r ffrindiau i gyd dal y tu mewn…ar antur fawr!"
LLYGOD YR ESGID

Ysgrifennwyd a chyflwynir LLYGOD YR ESGID gan Helyn Latimer ac mae'n defnyddio pypedau llaw, cerddoriaeth ysgafn ac ychydig o hud a lledrith i archwilio cyfeillgarwch, rhannu a chydweithio trwy daith ddiddan, addysgiadol i fyd newydd, anhysbys!

DYDDIADAU AR GAEL

  • Dydd Llun 23ain Ebrill 2012 hyd dydd Gwener 5ed Mai 2012
 

Testimonials